Amdanom Ni

Mae Cymdeithas Gwenynwyr Llŷn ac Eifionydd (CGLlE) yn gymdeithas gyfeillgar o oddeutu 80 o aelodau. Mae'r rhan fwyaf o'r aelodau hyn yn cadw gwenyn eu hunain ac yn hybu’r grefft o gadw gwenyn i'r rhai sydd â diddordeb ac i’r cyhoedd yn gyffredinol.
 

   Er nad yw hanes cynnar y Gymdeithas yn hysbys iawn , mae yna dystiolaeth o hen lyfrau banc fod y Gymdeithas yn bod ers yr 1930au. Daw'r aelodau presennol yn bennaf o Lŷn a'r ardaloedd cyfagos, ond mae hen restrau aelodaeth yn dangos fod aelodau yn y gorffennol wedi dod  o bob cwr o'r hen Sir Gaernarfon a thu hwnt.

 

    Mae gan y Gymdeithas ei wenynfa ei hun ger Pwllheli gyda chwe chwch. Daw'r wenynfa hon nid yn unig ag incwm i'r Gymdeithas, ond mae hefyd yn adnodd hyfforddi ac addysgu pwysig. Mae dau o aelodau mwyaf profiadol y Gymdeithas yn gofalu am y wenynfa hon.

 

    Mae’r Gymdeithas yn cynnal cyfarfodydd gydol y flwyddyn. Yn ystod y gaeaf cynhelir y cyfarfodydd yn Ysgol Bro Plennydd, Y Ffor, ble mae siaradwyr gwadd yn trafod pob agwedd ar gadw gwenyn.

 

    Cynhelir y cyfarfodydd haf un ai yng ngwenynfa'r Gymdeithas neu yn wenynfa un o'r aelodau. Yn y cyfarfodydd hyn fe all yr aelodau fanteisio ar arbenigedd yr aelodau mwy profiadol. Trafodir pob agwedd o gadw gwenyn yn ei dro, megis trin y cwch, pla a heintiau, rheoli heidio, a llawer o agweddau eraill. Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle hefyd i aelodau gwrdd a chymysgu mewn awyrgylch braf ac anffurfiol.

 

    Cyhoeddir cylchlythyr yn fisol ar gyfer aelodau CGLlE. Mae’r cylchlythyr yn cynnwys newyddion o fyd cadw gwenyn ac erthyglau o ddiddordeb. Mae’r Gymdeithas hefyd wedi ei chysylltu â Chymdeithas Gwenynwyr Cymru ac fe fydd aelodau yn derbyn y cyfnodolyn “Gwenynwyr Cymru”  bob chwarter.