Croeso i wefan Cymdeithas Gwenynwyr Llŷn ac Eifionydd, sydd yma i gynnig cymorth a gwybodaeth i wenynwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn cadw gwenyn ym Mhenrhyn Llŷn a'r ardaloedd cyfagos.


Mae Penrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol,  yn ymestyn 30 milltir i Fôr Iwerddon. Mae gan yr ardal ficrohinsawdd ei hun dan ddylanwad Llif y Gwlff. Drwy hynny mae'r tywydd yn dynerach a thymheredd y môr yn uwch. 

Mae'r gymdeithas yn cynnal cyfarfodydd misol rheolaidd. Yn ystod y gaeaf fe fydd siaradwyr gwadd yn ymweld, ac yn ystod yr haf cynhelir cyfarfodydd yng ngwenynfeydd yr aelodau. 

Cyhoeddir cylchlythyr misol i'n holl aelodau, sydd yn cynnwys holl newyddion diweddaraf y Gymdeithas.

Os oes gennych ddiddordeb cadw gwenyn ac ymuno â'r gymdeithas, neu os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch drwy ddefnyddio'r ddolen "cysylltu â ni".

 

           Welcome to the Lleyn & Eifionydd Beekeepers’ Association website, a resource to help, support and inform beekeepers and anyone interested in keeping bees on the Lleyn peninsular and surrounding communities.  

The Lleyn Peninsula is an area of Outstanding Natural Beauty stretching some 30 miles into the Irish Sea in North West Wales. The peninsula enjoys a unique micro climate, benefiting from the gulf stream, bringing warmer weather and higher sea temperatures.

The association holds regular monthly meetings, during the winter an interesting and varied programme of speakers is arranged, summer meeting are held at the association apiary or member’s apiaries. Details may be found via the ‘Calendar’ link.

A monthly newsletter is produced containing all the latest association news, which is circulated to all our members.

If you are interested in keeping bees and wish to join our association or require any further information please email the association secretary: Secretary.llebka@gmail.com